Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Disgowntiau, Diystyriadau ac Esemptiadau) (Cymru) 2026
Pwyntiau Craffu Technegol 1, 2, 3, 4 a 6:
Mae Llywodraeth Cymru yn cytuno â’r pwyntiau adrodd hyn a bydd yn sicrhau bod y Rheoliadau yn cael eu cywiro fel y nodir isod cyn eu gwneud. Mewn perthynas â phwynt 6, nodwn fod y gwall mewn perthynas ag Atodlen 4 paragraff 11 ac nid Atodlen 11 paragraff 4.
Pwynt Craffu Technegol 5:
Mae’r offeryn sy’n cael ei ddiwygio (Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992) yn cynnwys testun cyfochrog sy’n gymwys ar wahân i Gymru a Lloegr. Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried ei bod yn ddoeth egluro cymhwysiad y testun sy’n cael ei fewnosod yn yr offeryn. Cadarnheir y dull hwn gan baragraff 7.28(3) o Drafftio Deddfau i Gymru.
Cywiriadau drafftio technegol i’w gwneud cyn gwneud Rheoliadau 2026:
|
CYWIRIADAU I’R TESTUN CYMRAEG CYN GWNEUD Y RHEOLIADAU |
CYWIRIADAU I’R TESTUN SAESNEG CYN GWNEUD Y RHEOLIADAU |
|
Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Disgowntiau, Diystyriadau ac Esemptiadau) (Cymru) 2026 |
The Council Tax (Discounts, Disregards and Exemptions) (Wales) Regulations 2026 |
|
Yn rheoliad 1(3) bydd y geiriau “Ym mharagraff (2)” yn cael eu diwygio i ddarllen “Yn y rheoliad hwn”. Bydd yr un diffiniad o awdurdod bilio hefyd yn cael ei ychwanegu at reoliad 28. |
Yn rheoliad 1(3) bydd y geiriau “In paragraph (2)” yn cael eu diwygio i ddarllen “In this regulation”. Bydd yr un diffiniad o awdurdod bilio hefyd yn cael ei ychwanegu at reoliad 28. |
|
Yn y diffiniad o “awdurdod bilio” yn rheoliad 1(3) bydd y geiriau “Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992” yn cael eu diwygio i ddarllen “Ddeddf 1992”. |
Yn y diffiniad o “billing authority” yn rheoliad 1(3) bydd y geiriau “Local Government Finance Act 1992” yn cael eu diwygio i ddarllen “1992 Act”. |
|
Yn y diffiniad o “caniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi”, bydd y geiriau “in the United Kingdom” yn cael eu hychwanegu at y diffiniad Saesneg cyfatebol mewn cromfachau i ddarllen “leave to enter or remain in the United Kingdom” ac ym mharagraff (a)(ii) bydd y geiriau “caniatáu i’r person hwnnw” yn cael eu diwygio i ddarllen “caniatáu i P”. |
Yn y diffiniad o “leave to enter or remain” yn rheoliad 2 bydd y geiriau “in the United Kingdom” yn cael eu hychwanegu at y diffiniad i ddarllen ”leave to enter or remain in the United Kingdom”. |
|
Bydd paragraff 11(1) o Atodlen 4 yn cael ei ddiwygio i ddarllen “Mae’r cynllun a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn”. |
Bydd paragraff 11(1) o Atodlen 4 yn cael ei ddiwygio i ddarllen “The scheme set out in the Schedule to the Council Tax Reduction Schemes (Default Scheme) (Wales) Regulations 2013 is amended as follows.” |
|
Bydd mân faterion teipograffyddol a throednodiadau hefyd yn cael eu cywiro. |
|